Mwy na dim ond cyfres o weithdai ar y celfyddydau creadigol

Postiad blog gan Richard Marsden | 1 Mawrth 2020

Arwyddion arddangos gweithdy BG REACH
Arwyddion arddangos gweithdy BG REACH

Ar 5 Medi 2019, cyhoeddodd Ymchwil ac Arloesi yn y DU gronfa i gefnogi prosiectau ymchwil ‘seiliedig ar ardaloedd’ gan weithio mewn partneriaeth â chymunedau lleol. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau oedd 21 Hydref 2019. Dim ond chwe wythnos oedd gennym felly i feithrin partneriaeth â’r Brifysgol Agored, Linc Cymru a Grŵp Cymunedol Aberbîg, i greu cynllun roedd pawb yn fodlon arno, a chyflwyno cais llwyddiannus. A dweud y gwir, roedd yn ras wyllt i gael popeth yn barod. Cawsom wybod bod y cais yn llwyddiannus ar 27 Tachwedd 2019, ond roedd gofyniad ynghlwm wrth y swm o ryw £37,500 roeddem wedi’i ennill – roedd yn rhaid i’r prosiect ddechrau ar 2 Rhagfyr 2019 – ymhen pum diwrnod! Aeth pawb ati fel lladd nadroedd, er bod prosesau biwrocrataidd iawn Y Brifysgol Agored o ran cyllid a phartneriaethau yn fwy o drafferth na’u gwerth.

Ond gwnaethom ddod i ben, a hynny’n bennaf diolch i waith caled a brwdfrydedd ein partneriaid yng Ngrŵp Cymunedol Aberbîg a Chartref Gofal Llys Glyncoed. Nhw fu’n brysur yn ennyn diddordeb pobl yn y prosiect, gan weithio ddydd a nos yn dosbarthu taflenni, cynnal digwyddiadau lansio, hyrwyddo’r prosiect ar y cyfryngau cymdeithasol ac achub ar bob cyfle i siarad amdano. Diolch iddyn nhw, mae dros 100 o bobl wedi cymryd rhan yn nigwyddiadau BG REACH ers dechrau mis Chwefror 2020.

At hynny, mae BG REACH wedi dod yn llawer mwy na dim ond cyfres o weithdai ar y celfyddydau creadigol sy’n adeiladu tuag at arddangosfa. Y sesiynau hynny sydd wrth wraidd y prosiect o hyd ond, yn seiliedig ar awgrymiadau gan ein cyfranogwyr, mae llawer mwy wedi cael ei ychwanegu ato. Er enghraifft, rydym yn gweithio gyda chôr ysgol gynradd leol ar gân am hanes lleol a gaiff ei pherfformio yn lansiad arddangosfa’r prosiect. Mae atgofion preswylwyr Llys Glyncoed bellach yn cael eu recordio a’u troi’n straeon digidol gan ddisgyblion ysgol uwchradd leol. Mae’r cerddi a’r straeon byrion a ysgrifennwyd gan bobl yn y gweithdai ysgrifennu creadigol yn cael eu recordio gan actor proffesiynol. Ac mae’r darnau a grëwyd gan aelodau o’r gymuned a oedd yn rhan o’r sesiynau celf weledol yn cael eu cyfuno i greu un croglun mawreddog. Nid oedd yr un o’r elfennau hyn yn rhan o’m syniad gwreiddiol ar gyfer y prosiect. Ac nid oedd yr un ohonynt yn rhan o’r cais am gyllid chwaith. Mae’r cyfan wedi datblygu’n ddigon annisgwyl, diolch i syniadau ein cyfranogwyr gwych.

Mae jargon ymchwil yn cyfeirio at y math hyn o beth fel ‘cydlunio’, ‘cydgynhyrchu’ a ‘chyd-greu’. Ond, yn ei hanfod, mae’n golygu gweithio gyda phobl fel partneriaid ymchwil yn hytrach na thestunau. Nid yw’n hawdd gwneud hyn bob amser; mae prifysgolion, cyrff cyllido a hyd yn oed cymdeithasau tai yn aml yn destun prosesau anhyblyg a dryswch biwrocrataidd. Ond mae’r prosiect hwn eisoes wedi dangos ei bod hi’n sicr yn werth gwneud yr ymdrech. Rwy’n ysu i gael ailddechrau! Ymlaen, BG REACH, ymlaen…!

Am yr awdur

Rhannu’r erthygl hon:

Cysylltwch â ni 

Rydym eisiau clywed eich barn a’ch adborth ar y prosiect hwn ac i chi ein dilyn ar y cyfryngau cymdeithasol neu gysylltu â ni.

Cysylltu
Paentiad o Modron