
Cymerodd hi gryn dipyn o amser i ddod o hyd i ganolfan gymunedol Aberbîg, lleoliad ein cyfres o weithdai, ar gyfer y digwyddiad lansio fore Sadwrn, ond pan wnaethom ni, cefais fy siomi ar yr ochr orau o weld pa mor addas oedd y lle ar gyfer y math o beth a oedd gennym mewn golwg – cyfuniad o hanes celf a gwaith celf ymarferol. Roedd y baneri a oedd yn hysbysebu’r gweithdai’n drawiadol, ac roedd hyd yn oed wal wag dda lle gallem daflunio sleidiau! Yr agwedd galonogol arall ar y bore oedd cael cwrdd â rhai o’r bobl a oedd wedi bod ynghlwm wrth y prosiect o’r dechrau’n deg, a rhai o’r unigolion a oedd â diddordeb yn y sesiynau oedd â llawer o gwestiynau am ein cynlluniau ac a oedd yn ysu i ddechrau arni. Gwnaethant hefyd roi llawer o wybodaeth i mi am Aberbîg a’r cyffiniau, a oedd yn awgrymu bod hen ddigon o gyfleoedd i grwydro a gweld y dreftadaeth leol, yn ychwanegol at yr hyn roeddwn i eisoes wedi ymchwilio iddo.
Yr wythnos gyntaf: bore Mercher
Roedd yn dda cael cwrdd â’r artist Andy O’Rourke ymlaen llaw, a ninnau eisoes wedi trafod y gweithdy cyntaf. Roedd y ffaith ei bod hi’n hanner tymor yn golygu bod pobl o bob oed yn bresennol. Ar ôl cael trefn ar y gwaith papur angenrheidiol, gwnaethom ddechrau gyda chyflwyniad sleidiau yn seiliedig ar y ‘Pitmen Painters’, sef grŵp o artistiaid a oedd yn gweithio yn y pyllau glo yng ngogledd-ddwyrain Lloegr yn yr 1930au a’r 40au. Dewisais y pwnc hwn gan ei fod yn stori ddiddorol ynddo’i hun, a allai gysylltu â threftadaeth lofaol leol Aberbîg, a hefyd oherwydd ei bod yn ymddangos bod cysylltiadau rhwng yr hyn a wnaeth y ‘Pitmen Painters’ a’r hyn roeddem yn gobeithio ei gyflawni yn ein gweithdai. Tro Andy oedd hi wedyn, ac aethom ati i greu placiau ‘metelaidd’ yn seiliedig ar ddelweddaeth leol a threftadaeth ddiwydiannol yr ardal, gan ymgorffori llythrennau Aberbîg gyda’r nod o ddechrau creu casgliad o waith i’w arddangos. Roedd hwn yn weithgaredd da iawn i ddechrau arno gan ei fod yn cyflwyno techneg a oedd yn newydd i’r bobl oedd yn cymryd rhan, ond un y gallai pawb ymuno ynddi i greu darn o waith y gallent fod yn falch ohono yn ystod yr amser a oedd ar gael ar gyfer y gweithdy.
Yr ail wythnos
Er gwaethaf llifogydd di-baid a gaeodd un o’r ffyrdd lleol, a rhybuddion eira, llwyddodd pob un ohonom i gyrraedd a chroesawyd cydweithiwr Andy, sef Kate, a ddaeth â deunyddiau gyda hi i bawb roi cynnig ar dechneg printio. Gyda hynny mewn cof, testun fy sgwrs hanes celf oedd gwaith print artistiaid, a oedd yn cynnwys print o’r Siartwyr yng Nghasnewydd a sbardunodd sgwrs. Roedd gennym grŵp ychydig yn wahanol y tro hwn, ond roedd pawb yr un mor frwdfrydig ac yn barod i gymryd rhan. Roedd y gwaith print a grëwyd gan y grŵp yn gymysgedd o ddelweddau lleol, fel ffigwr y Gwarcheidwad yn Six Bells, a rhai mwy cyffredinol, fel blodau. Unwaith eto, cafodd gwaith trawiadol ei greu a byddai’n dda ei gynnwys yn yr arddangosfa. Hefyd, bu amser i drafod ag ambell aelod o’r grŵp, gyda chymorth ychydig o sleidiau ar y gliniadur a phaentiad/gwaith collage mawr roedd Kate wedi’i wneud gyda grŵp gwahanol, sut y gallai rhai agweddau ar wniadwaith, neu decstilau’n fwy cyffredinol, gael eu hymgorffori yn y gweithdai, o ystyried y cyfyngiadau amser.
Y drydedd wythnos: prynhawn Gwener
Wrth i’r llifogydd gilio, clywn sïon bod haint ar ddod. Roedd llai o bobl y tro hwn, oherwydd hyn o bosibl, neu efallai am nad oedd y diwrnod/amser mor gyfleus. O ran hanes celf, gwnaethom ystyried genre ‘golygfeydd o fywyd pob dydd’ yn hanesyddol – roedd diddordeb mawr mewn gwaith y gellir ei weld yn lleol, e.e. yn Amgueddfa Cymru, ac yn y posibilrwydd o gynnal ymweliad fel grŵp. Sbardunodd paentiad Lowry o Six Bells yn benodol gryn drafod. Gwnaethom hefyd edrych ar fraslun Andy o sut y gallai’r gwaith rydym yn ei wneud gael ei arddangos, a chafwyd cefnogaeth gadarnhaol i hyn. Mae rhai pobl wedi penderfynu gweithio ar brosiectau hirach gyda chymorth ein hartistiaid, e.e. paentiad maint go iawn Barbara o dywysoges ryfelgar Geltaidd. Achubodd eraill ar y cyfle i greu rhai paentiadau llai o olygfeydd lleol gyda chymorth a chyngor Andy. Roedd yn ddiddorol, o safbwynt hanesydd celf, weld dylanwad y gwaith gan Lowry y gwnaethom edrych arno ar y rhain. Roeddem yn falch o gael y cyfle i weld rhywfaint o wniadwaith o fri a wnaed beth amser yn ôl gan un aelod o’r grŵp, sef Hilary: panel yn dangos Aberbîg mewn clogyn mawr.
Y bedwaredd wythnos
Gwnaethom groesawu Kate yn ôl am ei hail sesiwn fel ein hartist gwadd. Mae’n amlwg bod pandemig y coronafeirws yn dechrau effeithio ar niferoedd, gan fod rhai pobl yn dewis aros gartref. Gan wybod pwy fyddai’n debygol o fod yn bresennol, ailedrychais ar y rhestr gynnar o themâu a awgrymwyd, gyda sleidiau ym maes ‘Celf, gweithredu a phrotest’ yn cysylltu â’r Celtiaid, y Siartwyr, celf posteri, baneri undebau glofaol, a phrosiect ‘save the canyon’ gan fod dau aelod, sef Hazel ac Emily, yn ailgydio mewn paentiad tirlun a collage yn seiliedig ar hyn. Fel roeddem wedi’i ddisgwyl cyn i’r gweithdai ddechrau, roedd pawb fwy neu lai yn bwrw ymlaen â’u prosiectau eu hunain neu brosiectau ar y cyd roeddent eisoes wedi’u dechrau erbyn hyn. Rwyf wir yn gobeithio y bydd dyhead o hyd i ailafael yn y rhain, ac y bydd rhai pobl eraill yn dychwelyd gobeithio, unwaith y gallwn ailddechrau’r gweithdai.
