Sandfields, PORT TALBOT

Wedi’i adeiladu er mwyn darparu cartrefi i gymuned gwaith dur oedd yn tyfu, mae Sandfields wedi’i llunio gan ddiwydiant, y môr a chenedlaethau o bobl sydd wedi gwneud yr ardal yn gartref iddynt. Heddiw mae rhwydweithiau cymunedol cryf yn parhau i ddathlu ei hanes ac ymateb yn greadigol i newid.

Gweithiodd REACH Cymru gyda Codi a grwpiau lleol er mwyn archwilio atgofion o’r gwaith dur, glan y môr, bywyd cymunedol a’r byd naturiol. Drwy arddio, hanes, tecstiliau a cherflunio, mae pobl wedi rhannu atgofion a chreu straeon newydd am y lle maen nhw’n ei alw’n adref.

Mae REACH hefyd wedi gweithio gyda’r Prosiect LIFE yng Ngwasanaethau Cam-drin Domestig Thrive. Drwy gelf a chreu pethau, mae menywod wedi archwilio hanes, chwedlau, byd natur a’u creadigrwydd eu hunain, gan greu serameg, collage a gweithiau celf o wydr.

Gyda’i gilydd, mae’r gwaith yn dathlu atgofion, gwytnwch a chreadigrwydd – a’r cysylltiadau rhwng pobl, lle a chymuned.

“The Art Workshops were so amazing – I thoroughly enjoyed them, the workshop leaders were great… and I met some great people to boot”

Codi logo

ARCHWILIO EITEMAU ARDDANGOS PORT TALBOT

Artwork from the Dod yn Ôl At Fy Nghoed exhibitPort Talbot

Dod yn Ôl At Fy Nghoed

Mae’r dyfyniad ‘Dod yn ôl at fy nghoed’ yn disgrifio cymryd eiliad i glirio’ch meddwl a dod o hyd i chi eich hun o newydd

Artwork from the Gwau’r Gwenyn exhibitPort Talbot

Gwau’r Gwenyn

3 gwenynen helyg yn dathlu creu’r ardd gymunedol a’r gwenyn cardio prin a geir ym Mhort Talbot

Artwork from the Dyfroedd Dyfnion exhibitPort Talbot

Dyfroedd Dyfnion

Diorama o greaduriaid môr wedi’u gwau, llinell ategol eiconig y gwaith dur, a chregyn o draeth Aberafan

Artwork from the Bechgyn y Llyfrgell exhibitPort Talbot

Bechgyn y Llyfrgell

Portreadau ac atgofion gan Bechgyn Llyfrgell Sandfields

Artwork from the Morfil Aberafan exhibitPort Talbot

Morfil Aberafan

Cerflun papur-mâché o morfil a phengwinedd Aberafan, nodwedd gelf gyhoeddus boblogaidd iawn ar lan y môr

Artwork from the Tylluanod a Blodau exhibitPort Talbot

Tylluanod a Blodau

Cllajau cyfryngau cymysg yn ailddychmygu stori Blodeuwedd

Artwork from the Cyfrinachau’r Tywod exhibitPort Talbot

Cyfrinachau’r Tywod

Mae tywod arfordir Port Talbot yn cuddio olion pobl a oedd yn byw yma filoedd o flynyddoedd yn ôl

Artwork from the Mwy Na Dim Ond Lle Gwyrdd exhibitPort Talbot

Mwy Na Dim Ond Lle Gwyrdd

Yn 2023, roedd y rhan fwyaf o’r tir o amgylch Llyfrgell Sandfields yn laswellt. Roedd gan wirfoddolwyr lleol weledigaeth wahanol – creu gardd fyddai’n dod â phobl a byd natur at ei gilydd

Artwork from the Fy Mhaned exhibitPort Talbot

Fy Mhaned

Mae rhannu Paned yn un o feini prawf bywyd cymdeithasol Prydain, ond mae beth rydych chi’n ei yfed, sut rydych chi’n ei wneud, a phryd a lle rydych chi’n ei rannu yn ffenestr i draddodiadau personol a theuluol

Artwork from the Atgofion: Portreadau Perthyn (Portreadau) exhibitPort Talbot

Atgofion: Portreadau Perthyn (Portreadau)

Llyfr o bortreadau ac atgofion trigolion llety â chymorth Ysbryd Y Môr