Dyffryn Nantle, Gwynedd
Wedi’i amgylchynu gan fynyddoedd a’i lunio gan genedlaethau o gloddio llechi, mae gan Ddyffryn Nantlle gymuned Gymraeg gref a chysylltiad agos â’i thirwedd a’i threftadaeth.
Gweithiodd REACH Cymru gydag Adra ac Yr Orsaf ym Mhenygroes er mwyn archwilio’r hanesion a’r straeon sy’n bwysig i bobl leol. Drwy adrodd straeon, hanes teulu, ymweliadau a gweithdai creadigol, fe wnaeth pobl archwilio eu cysylltiadau gyda’r dyffryn.
Gan weithio gydag artistiaid lleol, fe wnaethant greu cerfluniau, tecstiliau a chelf weledol wedi’u hysbrydoli gan bobl, traddodiadau a thirwedd naturiol Dyffryn Nantlle.
“Hyfryd! Roedd y fath ymdeimlad o gyswllt a chariad yn dod drwy’r arddangosfa, ac yn arbennig felly wrth ein dathlu ni i gyd wrth i ni fynd yn hŷn a’n bod yn parhau i gael ein hannog i greu – hyd yn oed yn fwy.”


ARCHWILIO EITEMAU ARDDANGOS GWYNEDD
GwyneddCerdded yn Ôl eu Traed
8 botas papier-mâché wedi’u gwneud o bapurau newydd lleol, wedi’u hysbrydolu gan bâr hanesyddol o botasau Chwarelwr lleol
GwyneddMeddyginiaethau Byd Natur
Printiau leino a ysbrydolwyd gan ddarluniau botanegol Llysieulfur Teuluaidd (Llysieuol Teuluol) Jones Llanllyni (1862)
GwyneddY Chwarelwyr
Portreadau amlygiad dwbl o weithwyr chwarel lechi o Ddyffryn Nantlle, wedi’u tynnu gan ddisgyblion ysgol gynradd
GwyneddWedi’i Wau Ynghyd
5 piece o waith helyg, pob un yn gydweithrediad rhwng gwahanol bobl o’r gymuned. Wedi’u hysbrydolu gan grefftau treftadaeth a marciau defaid.
GwyneddEin Cynefin mewn Celf
Paentiadau a darluniau a gynhyrchwyd gan ddisgyblion yn Ysgol Bro Lleu yn cynrychioli ‘ein cynefin mewn celf’ – eu cysylltiad â’u hardal leol

