tre-biwt, Cardiff

Mae Tre-biwt, a adwaenir weithiau fel Bae Teigr, wedi cael ei lunio ers amser maith gan bobl yn cyrraedd o bob rhan o’r bryd. Erbyn dechrau’r 20fed ganrif, roedd pobl o fwy na 50 o wledydd wedi gwneud yr ardal yn gartref iddynt, gan greu un o gymunedau amlddiwylliannol cynharaf y DU.

Gweithiodd REACH Cymru gyda Chymdeithas Dai Taf a phobl sy’n gysylltiedig gyda Red Sea House er mwyn archwilio hanes, hunaniaeth a chymuned Tre-biwt.
Rhannodd hynafgwyr atgofion o’r llynges fasnachol a Dociau Caerdydd wrth iddo newid. Archwiliodd pobl ifanc hanes Somalaidd Prydeinig a’u hunaniaethau eu hunain drwy ffilm a dylunio dillad. Rhannodd menywod rysetiau ac archwilio teithiau bwyd a sbeis, tra gwnaeth grwpiau garddio drawsnewid lle sydd heb ei ddefnyddio yn ardd lle gallai cenedlaethau gwahanol ddod ynghyd.
Tyfodd llawer o’r gwaith drwy gadwraeth, adrodd straeon a rhannu profiadau – gan gysylltu atgofion o’r gorffennol gyda bywydau a hunaniaethau pobl sy’n galw Tre-biwt yn gartref iddynt heddiw.

“Gwaith hyfryd, mae’n dda gweld bod y gwaith estyn allan i’r gymuned yn gweithio mor dda. Llongyfarchiadau i gyfranogwyr a’r hwyluswyr”

Taff logo

Archwilio eitemau arddangos Caerdydd

Art work from the Straeon Heb eu Hadrodd (Dod yn Fuan) exhibitCaerdydd

Straeon Heb eu Hadrodd (Dod yn Fuan)

Teithiodd pobl ifanc o Butetown i Lundain i wylio Untold Stories Part 2, rhaglen ddogfen sy’n archwilio profiadau’r gymuned Somali yn Tower Hamlets

Art work from the Portreadau o grŵp merched Amanah exhibitCaerdydd

Portreadau o grŵp merched Amanah

Ymwelodd y ffotograffydd Rhys Webber â Grŵp Merched Amanah gyda stiwdio luniau gludadwy a thynnu’r portreadau hyn.

Art work from the Blasu’r Byd exhibitCaerdydd

Blasu’r Byd

Yn fwy na chasgliad o ryseitiau, mae Blasu’r Byd yn dathlu’r cyfeillgarwch, yr hyder a’r ymdeimlad o berthyn a dyfodd yn y gegin.

Art work from the Gwisgo ein Hunaniaeth exhibitCaerdydd

Gwisgo ein Hunaniaeth

Archwiliodd pobl ifanc o Butetown, Grangetown a Splott sut y gall dillad fynegi pwy ydym ni a lle rydym yn dod ohono

Art work from the Gwreiddio, Codi, Estyn (Dod yn Fuan) exhibitCaerdydd

Gwreiddio, Codi, Estyn (Dod yn Fuan)

Gan weithio gyda Yaina o’r elusen arddio Perennial, bu pobl hŷn, menywod a phobl ifanc yn cydweithio i gynllunio’r ardd

Art work from the Ein Lleisiau (Dod yn Fuan) exhibitCaerdydd

Ein Lleisiau (Dod yn Fuan)

Gweithiodd pobl ifanc o Butetown gyda’i gilydd i greu’r ffilm fer hon, sy’n archwilio beth mae hunaniaeth yn ei olygu iddyn nhw.