Ymladd Dros Fy Hawliau: Stori Rex
Wedi’i eni gyda pharlys yr ymennydd yn 1949 mae Rex Codd wedi treulio llawer o’i fywyd yn ymgyrchu dros hawliau, annibyniaeth a chynhwysiant pobl anabl.
Mae stori Rex yn cynnwys ymladd dros ei hawl i fynychu’r coleg, arwain protest cadair olwyn yng Ngorsaf Fysiau Caerdydd ac eiriol dros eraill drwy Scope. Mae hefyd wedi sefydlu’r Torfaen Tigers er mwyn rhoi mwy o fynediad at chwaraeon i bobl anabl ac yn ddiweddarach ymgyrchodd dros welliannau i dai hygyrch a thrafnidiaeth gyhoeddus.
Yn y recordiad hanes llafar yma, mae Rex yn myfyrio ar y profiadau hyn ochr yn ochr ag atgofion mwy personol – o fod yn cael ei anfon i ffwrdd o gartref yn saith oed i gyfarfod ei wraig a’r cariad maen nhw’n ei rannu at gerddoriaeth.
“Y peth pwysig yw ein bod ni’n gallu siarad pan nad yw llawer o bobl anabl yn gallu, a thrwom ni maen nhw’n gallu cael y cymorth a’r gefnogaeth maent eu hangen.”
Mae stori Rex yn ein hatgoffa bod treftadaeth nid yn unig am gofio’r gorffennol. Mae hefyd am y bobl sy’n herio rhwystrau a helpu i lunio dyfodol mwy cynhwysol.
Cliciwch chwarae i glywed stori Rex (sylwer: mae’r recordiad hanes llafar hwn yn cynnwys peth tyngu)
Edrychwch ar fwy o greadigrwydd Sir Benfro
Sir BenfroAmgueddfa mewn Bag
Pocedi / Bagiau wedi’u haddurno a’u llenwi’n unigol yn creu ‘Amgueddfa Ohonof I’ fechan
Sir BenfroBwyd Da o’r Ardd
Rhesipis am chinio wedi’i wneud o fwyd o’u gardd gymunedol eu hunain, ar babur wedi’i liwio gyda phlanhigion o’r ardd honno
Sir BenfroEstyn yn Ôl mewn Amser
Celf tecstiliau gydweithredol ar ffurf Afon Cleddau, yn adlewyrchu cysylltiad y gwneuthurwyr â’r dyfrffyrdd
















