Wedi’i Wau Ynghyd
Mae bryniau a ffermydd Dyffryn Nantlle wedi ysbrydoli’r cerfluniau yma o bren helyg. Mae rhai’n seiliedig ar nodau defaid traddodiadol, a ddefnyddiwyd unwaith gan deuluoedd ffermydd er mwyn adnabod eu defaid.
Gan weithio gyda phren helyg, aeth pobl ati i ail-greu’r nodau nodedig yma a hefyd gwneud adar a siapiau eraill oedd wedi’u hysbrydoli gan y dirwedd. Daeth y grefft draddodiadol yn ffordd o archwilio cysylltiadau rhwng ffermio, teulu a’r tir.
“Fe wnaethom ni adar ac yn y sesiwn olaf fe ddechreuom ganu caneuon roedden ni’n gwybod am adar. Roedd yn foment arbennig, fyrfyfyr.”
— Cyfranogwr, Dyffryn Nantlle
Cliciwch ar y delweddau i archwilio’r gwaith celf
Edrychwch ar fwy o greadigrwydd Gwynedd
GwyneddCerdded yn Ôl eu Traed
8 botas papier-mâché wedi’u gwneud o bapurau newydd lleol, wedi’u hysbrydolu gan bâr hanesyddol o botasau Chwarelwr lleol
GwyneddY Chwarelwyr
Portreadau amlygiad dwbl o weithwyr chwarel lechi o Ddyffryn Nantlle, wedi’u tynnu gan ddisgyblion ysgol gynradd
GwyneddEin Cynefin mewn Celf
Paentiadau a darluniau a gynhyrchwyd gan ddisgyblion yn Ysgol Bro Lleu yn cynrychioli ‘ein cynefin mewn celf’ – eu cysylltiad â’u hardal leol
GwyneddMeddyginiaethau Byd Natur
Printiau leino a ysbrydolwyd gan ddarluniau botanegol Llysieulfur Teuluaidd (Llysieuol Teuluol) Jones Llanllyni (1862)





















