Tylluanod a Blodau
Gan Genevieve Dally
Wedi’i ysbrydoli gan stori Blodeuwedd o’r Mabinogion, mae’r collage yma’n gofyn i ni weld stori gyfarwydd o Gymru o safbwynt gwahanol.
Cafodd Blodeuwedd ei chreu o flodau i fod yn wraig i Lleu. Mae’n syrthio mewn cariad gyda dyn arall ac yn cynllwynio i ladd ei gŵr. Fel cosb, mae’n cael ei thrawsnewid yn dylluan.
Pan wnaeth menywod o’r grŵp Thrive archwilio’r stori, fe wnaethant gwestiynu pa fersiwn ydym ni’n ei glywed fel arfer. Sut beth fyddai’r stori wedi bod o safbwynt Blodeuwedd? A hithau wedi’i chreu i fod yn wraig i rywun arall a’i chaethiwo mewn bywyd na wnaeth hi ei hun ei ddewis, a allai dod yn dylluan gynrychioli rhyddid yn hytrach na chosb?
Mae collage Genevieve yn archwilio’r syniad yma. Mae blodau’n troi’n blu wrth i Flodeuwedd drawsnewid o briodferch drist i dylluan wyllt – sy’n gallu hedfan, amddiffyn ei hun a dewis ei llwybr ei hun.
Mae’r gwaith celf yn ailhawlio’r stori hynafol fel un o oroesi, annibyniaeth a dod o hyd i’r nerth i ddechrau unwaith eto.
Cliciwch ar y delweddau i archwilio’r gwaith celf
Edrychwch ar fwy o greadigrwydd Port Talbot
Port TalbotMorfil Aberafan
Cerflun papur-mâché o morfil a phengwinedd Aberafan, nodwedd gelf gyhoeddus boblogaidd iawn ar lan y môr
Port TalbotFy Mhaned
Mae rhannu Paned yn un o feini prawf bywyd cymdeithasol Prydain, ond mae beth rydych chi’n ei yfed, sut rydych chi’n ei wneud, a phryd a lle rydych chi’n ei rannu yn ffenestr i draddodiadau personol a theuluol
Port TalbotAtgofion: Portreadau Perthyn (Portreadau)
Llyfr o bortreadau ac atgofion trigolion llety â chymorth Ysbryd Y Môr
Port TalbotMwy Na Dim Ond Lle Gwyrdd
Yn 2023, roedd y rhan fwyaf o’r tir o amgylch Llyfrgell Sandfields yn laswellt. Roedd gan wirfoddolwyr lleol weledigaeth wahanol – creu gardd fyddai’n dod â phobl a byd natur at ei gilydd






