Tu Hwnt i Ffin Ieithyddol Llinell Landsker

Beth os yw ffin na allwch mo’i gweld yn parhau i lunio’r llefydd o’ch amgylch chi?

Mae Sir Benfro wedi’i chroesi gan ffin ddiwylliannol ac ieithyddol anweladwy o’r enw’r ‘Llinell Landsker’. Am ganrifoedd, mae wedi dynodi rhaniad eang rhwng cymunedau Cymraeg eu hiaith yn bennaf i’r gogledd a’r dwyrain a chymunedau sy’n siarad Saesneg i’r de a’r gorllewin.

Bu i breswylwyr Llys Kensington a Llys De Clare archwilio hanes y ffin anarferol hon drwy enwau llefydd lleol, tafodiaith, cestyll a straeon. Aethant ati i ymweld ag amgueddfeydd safleoedd hanesyddol ac Archifau Sir Benfro, gan ddarganfod sut mae canrifoedd o ymfudo ac ymgartrefu wedi llunio iaith a hunaniaeth y sir.

Yn Llys Kensington, fe wnaeth preswylwyr i gyd ‘fabwysiadu’ castell Normanaidd ar hyd ffin ieithyddol Sir Benfro gan ddwyn eu hymchwil ynghyd mewn map darluniadol i ddatgelu ffin na ellir ei gweld ar y dirwedd.

Yn Llys De Clare, archwiliodd pobl dafodieithoedd nodedig Sir Benfro a hunaniaeth gwahanol drefi a phentrefi. Daeth eu darganfyddiadau i fod yn gwis rhyngweithiol, yn gwahodd eraill i baru cliwiau gyda llefydd led-led de Sir Benfro.

Gyda’i gilydd, mae’r map a’r cwis yn datgelu sir sydd wedi’i llunio gan iaith, symudiad a hanes – ac sy’n ein gwahodd ni i edrych eto ar y ffiniau anweladwy sy’n gallu llunio ein hymdeimlad o le a pherthyn.

Cliciwch y delweddau i archwilio’r gwaith celf a phrofi eich gwybodaeth gyda chwis Llinell Landsker.

Edrychwch ar fwy o greadigrwydd Sir Benfro

Detail of 'Horizon of hope' painted banner | Manylyn baner wedi'i phaentio 'Gorwel gobaith'Sir Benfro

Gorwel Gobaith

Sgrol wedi’i pheintio mewn ymateb i’r arddangosfa ‘Morwelion’

'Museum in a Bag' selection of pieces | Detholiad o ddarnau 'Amgueddfa mewn Bag' 5Sir Benfro

Amgueddfa mewn Bag

Pocedi / Bagiau wedi’u haddurno a’u llenwi’n unigol yn creu ‘Amgueddfa Ohonof I’ fechan

Textile art - Reach back in timeSir Benfro

Estyn yn Ôl mewn Amser

Celf tecstiliau gydweithredol ar ffurf Afon Cleddau, yn adlewyrchu cysylltiad y gwneuthurwyr â’r dyfrffyrdd

Close up of scroll therough the ages boardSir Benfro

Sgrolio Drwy’r Oesoedd

Timlin o hanes Aberdaugleddau, wedi’i gyfrannu ato gan gyfranogwyr ac ymwelwyr i’r arddangosfa