Triptych Blodeuwedd

Daw stori Blodeuwedd o’r Mabinogion, casgliad o chwedlau canoloesol o Gymru. Wedi’i chreu o flodau er mwyn dod yn wraig i Lleu, mae Blodeuwedd yn syrthio mewn cariad gyda dyn arall ac yn cynllwynio i ladd ei gŵr. Mae Lleu’n goroesi, ac yn y pen draw mae Blodeuwedd yn cael ei thrawsffurfio’n dylluan fel cosb.

Wedi’u hysbrydoli gan y stori yma, gweithiodd oedolion gydag anableddau dysgu gyda’r artist Niki Fogarty i greu tair baner o frethyn Mae pob un yn dal amser golygfa wahanol yn y chwedl: Blodeuwedd yn ymffurfio o flodau, yr ymosodiad ar Lleu a’i thrawsnewidiad terfynol yn dylluan.

Gan ddefnyddio printio bloc, gweithiodd y grŵp gyda’i gilydd i ddod â stori hynafol o Gymru’n fyw drwy liwiau beiddgar, patrwm a delweddau o’r byd naturiol.

Cliciwch y delweddau er mwyn archwilio’r triptych

Edrychwch ar fwy o greadigrwydd Oedolion gydag Anableddau

Collection of clay pots | CCasgliad o botiau claiOedolion gydag Anableddau

Ysbrydoliaeth yr Oes Haearn

Crochanau clai a thorciau wedi’u gwneud o lanhawyr pibellau, a wnaed ar ymweliad â Chaer Heritage Hillfort

Collage of photographic images | Casgliad o Ddelweddau FfotograffigOedolion gydag Anableddau

Ein Strydoedd, Ein Straeon

Cerdyn bingo o ysgogiadau ffotograffiaeth a’r ymatebion cydweithredol

Happy to be Welsh teeshirt | Crys-t 'Hapus i fod yn GymroOedolion gydag Anableddau

Balchder ein Cymru Ni

3 chrys-t wedi’u hargraffu â llaw, sy’n adlewyrchu balchder y crewyr yn eu hunaniaeth

Dragon design teeshirt | Crys T gyda dyluniad draigOedolion gydag Anableddau

Cennin Pedr a Dreigiau

Crysau-t wedi’u gwneud ar gyfer yr arddangosfa gymunedol yn y WMC ym Mae Caerdydd