Straeon Heb eu Hadrodd (Dod yn Fuan)

Teithiodd pobl ifanc o Dre-biwt i Lundain i wylio Untold Stories Rhan 2, sef rhaglen ddogfen sy’n archwilio profiadau’r gymuned Somali yn Tower Halmlets.

Mae’r ffilm yn rhannu straeon gan wahanol genedlaethau o Bobl Somali Prydeinig, gan gynnwys teuluoedd gyda chysylltiadau â Somalia. Wedi’r dangosiad, fe wnaeth y bobl ifanc gyfarfod gyda’r cyfarwyddwr a’r cyfranwyr, ac fe arweiniodd hyn at sgyrsiau am dreftadaeth, ymfudo, hunaniaeth a straeon pwy sy’n cael eu clywed.

Yn ôl yn Nhre-biwt, rhoddodd sesiynau ysgrifennu creadigol ofod i’r grŵp archwilio eu profiadau eu hunain. Drwy farddoniaeth, trafodaeth ac ysgrifennu, fe wnaethant fyfyrio ar deulu, diwylliant, perthyn a beth mae’n ei olygu i dyfu i fyny yng Nghymru gyda chysylltiadau i wahanol lefydd a thraddodiadau.

Mae eu geiriau’n dathlu pwysigrwydd dweud eich stori eich hun, yn eich ffordd eich hun – a gwneud lle i leisiau a phrofiadau nad ydynt yn cael eu clywed yn aml iawn.

Cliciwch y delweddau i archwilio eu hysgrifennu.

Edrychwch ar fwy o greadigrwydd Caerdydd

Caerdydd

Ein Lleisiau (Dod yn Fuan)

Gweithiodd pobl ifanc o Butetown gyda’i gilydd i greu’r ffilm fer hon, sy’n archwilio beth mae hunaniaeth yn ei olygu iddyn nhw.

Caerdydd

Blasu’r Byd

Yn fwy na chasgliad o ryseitiau, mae Blasu’r Byd yn dathlu’r cyfeillgarwch, yr hyder a’r ymdeimlad o berthyn a dyfodd yn y gegin.

Amanah Girls Group PortraitsCaerdydd

Portreadau o grŵp merched Amanah

Ymwelodd y ffotograffydd Rhys Webber â Grŵp Merched Amanah gyda stiwdio luniau gludadwy a thynnu’r portreadau hyn.

Caerdydd

Gwisgo ein Hunaniaeth

Archwiliodd pobl ifanc o Butetown, Grangetown a Splott sut y gall dillad fynegi pwy ydym ni a lle rydym yn dod ohono

Caerdydd

Gwreiddio, Codi, Estyn (Dod yn Fuan)

Gan weithio gyda Yaina o’r elusen arddio Perennial, bu pobl hŷn, menywod a phobl ifanc yn cydweithio i gynllunio’r ardd