Gwreiddio, Codi, Estyn (Dod yn Fuan)

Mae cowrt oedd wedi gordyfu yn Red Sea House wedi cael ei drawsffurfio’n ardd gymunedol – lle i dyfu bwyd, mwynhau byd natur a dod â chenedlaethau ynghyd yng nghanol Tre-biwt.

Gan weithio gyda Yaina o’r elusen arddio Perennial, helpodd hynafgwyr, menywod a phobl ifanc helpu i ddylunio’r ardd gyda’i gilydd. Aethant ati i rannu syniadau ynghylch beth oedden nhw ei eisiau o’r gofod gan gynnwys planhigion i’w bwyta, planhigion gyda chysylltiadau â Somalia, a rhywle croesawgar i bobl o wahanol oedran gwrdd.

Dros wyth wythnos, fe wnaeth y grŵp glirio’r cwrt, adeiladu gwelyau blodau wedi codi, plannu a dysgu sgiliau garddio newydd. Yn ystod y cyfnod hwn, fe wnaeth hynafwyr rannu atgofion o dyfu bwyd yn Somalia a llefydd eraill, tra bu i wahanol genedlaethau weithio ochr yn ochr â’i gilydd a dysgu gan ei gilydd.

Mae’r ardd yn parhau i dyfu ac erbyn hyn mae’n ofod sy’n cael ei rannu gan breswylwyr Red Sea House a’r gymuned yn ehangach – wedi’i chreu gyda’i gilydd a’i gwreiddio mewn atgofion, gwybodaeth a gobeithion ar gyfer y dyfodol.

Cliciwch y delweddau er mwyn archwilio’r ardd.

Tags:
Share:

Edrychwch ar fwy o greadigrwydd Caerdydd

Caerdydd

Straeon Heb eu Hadrodd (Dod yn Fuan)

Teithiodd pobl ifanc o Butetown i Lundain i wylio Untold Stories Part 2, rhaglen ddogfen sy’n archwilio profiadau’r gymuned Somali yn Tower Hamlets

Caerdydd

Ein Lleisiau (Dod yn Fuan)

Gweithiodd pobl ifanc o Butetown gyda’i gilydd i greu’r ffilm fer hon, sy’n archwilio beth mae hunaniaeth yn ei olygu iddyn nhw.

Amanah Girls Group PortraitsCaerdydd

Portreadau o grŵp merched Amanah

Ymwelodd y ffotograffydd Rhys Webber â Grŵp Merched Amanah gyda stiwdio luniau gludadwy a thynnu’r portreadau hyn.

Caerdydd

Blasu’r Byd

Yn fwy na chasgliad o ryseitiau, mae Blasu’r Byd yn dathlu’r cyfeillgarwch, yr hyder a’r ymdeimlad o berthyn a dyfodd yn y gegin.

Caerdydd

Gwisgo ein Hunaniaeth

Archwiliodd pobl ifanc o Butetown, Grangetown a Splott sut y gall dillad fynegi pwy ydym ni a lle rydym yn dod ohono