Gwau’r Gwenyn

Mae Port Talbot yn gartref i un o gacwn mwyaf prin y DU – y Gardwenynen Feinllais. Mae ei goroesiad yn dibynnu ar gynefinoedd sy’n gyforiog o flodau gwyllt, gan gynnwys y rhai sydd i’w canfod o amgylch Port Talbot a’r twyni gerllaw.

Fe wnaeth plant o Ysgol Gynradd Awel y Môr ac oedolion o Ardd Gymunedol Sandfields archwilio pwysigrwydd gwenyn, peillwyr a bywyd gwyllt ar stepen eu drws.

Gan weithio gyda’r artist pren helyg Anna Stickland, daethant ynghyd i greu’r cerfluniau gwenyn mawr yma gan ddefnyddio pren helyg, sy’n ddeunydd naturiol a wehyddir â llaw yn draddodiadol.

Mae’r gwenyn yn dathlu’r cysylltiadau rhwng pobl, byd natur a’r gymuned. Wedi’r arddangosfa, byddant yn dychwelyd adref i ardd blodau gwyllt yr ysgol a Gardd Gymunedol Sandfields.

Cliciwch ar y delweddau i archwilio’r gwaith celf.

Edrychwch ar fwy o greadigrwydd Port Talbot

cup of teaPort Talbot

Fy Mhaned

Mae rhannu Paned yn un o feini prawf bywyd cymdeithasol Prydain, ond mae beth rydych chi’n ei yfed, sut rydych chi’n ei wneud, a phryd a lle rydych chi’n ei rannu yn ffenestr i draddodiadau personol a theuluol

Owl collage | Collage tylluan 5Port Talbot

Tylluanod a Blodau

Cllajau cyfryngau cymysg yn ailddychmygu stori Blodeuwedd

Secrets of the Sand clay jewellery based on archaelogical finds near Port TalbotPort Talbot

Cyfrinachau’r Tywod

Mae tywod arfordir Port Talbot yn cuddio olion pobl a oedd yn byw yma filoedd o flynyddoedd yn ôl

Collage of photos of the gardenPort Talbot

Mwy Na Dim Ond Lle Gwyrdd

Yn 2023, roedd y rhan fwyaf o’r tir o amgylch Llyfrgell Sandfields yn laswellt. Roedd gan wirfoddolwyr lleol weledigaeth wahanol – creu gardd fyddai’n dod â phobl a byd natur at ei gilydd

Trevor Haines photographic portrait | Portread ffotograffig Trevor HainesPort Talbot

Atgofion: Portreadau Perthyn (Portreadau)

Llyfr o bortreadau ac atgofion trigolion llety â chymorth Ysbryd Y Môr