Fy Mhaned
Mae rhannu paned wedi bod yn rhan o fywyd cymdeithasol Cymru ers tro. Mae’r hyn rydym yn ei yfed, sut rydym ni’n ei wneud ac â phwy rydym ni’n ei rannu yn gallu adlewyrchu traddodiadau personol, teuluol a diwylliannol.
I grŵp celf menywod ym Mhort Talbot, daeth cyfarfod dros ddiod boeth yn rhan o’u sesiynau creadigol wythnosol. Drwy REACH, aethant ati i archwilio hanes te yng Nghymru, gan ddarganfod cwpanau yfed o gasgliadau amgueddfeydd a blasu te o wahanol ddiwylliannau a thraddodiadau.
Fe wnaeth y grŵp hefyd arbrofi gyda lliwiau naturiol a wnaed o de a choffi cyn meddwl am eu hoff ddiodydd a mygiau eu hunain – a’r atgofion a’r straeon oedd yn gysylltiedig â hwy.
Wedyn aethant ati i greu eu mygiau serameg eu hunain, gan ddefnyddio dyluniadau i fynegi eu hunaniaeth eu hunain a hunaniaeth Cymru. Mae mwg Janine, a ddangosir yma, yn dwyn ynghyd wahanol rannau o’i hunaniaeth a’i chysylltiadau â Chymru.
Cliciwch ar y delweddau i archwilio’r gwaith celf
Edrychwch ar fwy o greadigrwydd Port Talbot
Port TalbotCyfrinachau’r Tywod
Mae tywod arfordir Port Talbot yn cuddio olion pobl a oedd yn byw yma filoedd o flynyddoedd yn ôl
Port TalbotDyfroedd Dyfnion
Diorama o greaduriaid môr wedi’u gwau, llinell ategol eiconig y gwaith dur, a chregyn o draeth Aberafan
Port TalbotMwy Na Dim Ond Lle Gwyrdd
Yn 2023, roedd y rhan fwyaf o’r tir o amgylch Llyfrgell Sandfields yn laswellt. Roedd gan wirfoddolwyr lleol weledigaeth wahanol – creu gardd fyddai’n dod â phobl a byd natur at ei gilydd
Port TalbotAtgofion: Portreadau Perthyn (Portreadau)
Llyfr o bortreadau ac atgofion trigolion llety â chymorth Ysbryd Y Môr









