Estyn yn Ôl mewn Amser
Mae Afon Cleddau’n llifo drwy dde Sir Benfro, gan gysylltu pobl, llefydd a chymunedau. Am genedlaethau mae ei dyfroedd wedi dylanwadu ar sut mae pobl wedi byw, gweithio a theithio.
Wedi’u hysbrydoli gan yr afon a’i hanes, gweithiodd preswylwyr Llys Kensington gyda’r arlunydd Janet Raven Taylor i greu’r gwaith celf tecstiliau hwn a rennir. Creodd pob person eu hadran ei hun, gan ychwanegu llefydd, bywyd gwyllt, adeiladau a manylion eraill sy’n bwysig iddyn nhw.
“Fe wnaeth pob un ohonom gyfrannu rhywbeth: tyrrau, cychod, pontydd, anifeiliaid… Roedd gan bob un rôl, waeth beth oedd lefel eu sgiliau.”
O’u cysylltu gyda’i gilydd, roedd eu darnau unigol yn creu map o Afon Cleddau a’r cymunedau ar hyd ei glannau. Mae byd natur yn bodoli ochr yn ochr â diwydiant, gan adlewyrchu tirwedd sy’n cael ei llunio gan bobl a’r byd naturiol.
Fel y clytwaith ei hun, daeth nifer o gyfraniadau unigol ynghyd i greu rhywbeth mwy na’r hyn allai un person fod wedi’i wneud ar ei ben ei hun.
Cliciwch ar y delweddau i archwilio’r gwaith celf
Edrychwch ar fwy o greadigrwydd Sir Benfro
Sir BenfroSgrolio Drwy’r Oesoedd
Timlin o hanes Aberdaugleddau, wedi’i gyfrannu ato gan gyfranogwyr ac ymwelwyr i’r arddangosfa
Sir BenfroBwyd Da o’r Ardd
Rhesipis am chinio wedi’i wneud o fwyd o’u gardd gymunedol eu hunain, ar babur wedi’i liwio gyda phlanhigion o’r ardd honno
Sir BenfroAmgueddfa mewn Bag
Pocedi / Bagiau wedi’u haddurno a’u llenwi’n unigol yn creu ‘Amgueddfa Ohonof I’ fechan












