Ein Lleisiau (Dod yn Fuan)

Gweithiodd pobl ifanc o Dre-biwt gyda’i gilydd er mwyn creu’r ffilm fer yma sy’n archwilio beth mae hunaniaeth yn ei olygu iddynt hwy.

Drwy sgyrsiau a gwneud ffilmiau, fe wnaethant fyfyrio ar y gwahanol bethau sy’n siapio pwy ydyn nhw, gan gynnwys treftadaeth, diwylliant, cenedligrwydd, ffydd, teulu a chyfeillgarwch. Mae eu hunaniaethau’n eu cysylltu gyda gwahanol lefydd a thraddodiadau, ond Caerdydd yw’r ddinas maen nhw’n ei alw’n adref.

Yn union fel y mae Caerdydd wedi cael ei llunio gan genedlaethau o bobl ar draws y byd, i’r bobl ifanc yn y ffilm hon mae’r ddinas a’r cyfeillgarwch, y profiadau a chyfleoedd mae’n eu cynnig wedi helpu i greu pwy ydyn nhw. 

Mae eu ffilm yn dangos nad oes raid i hunaniaeth fod yn un peth. Gall ddwyn ynghyd wahanol straeon, diwylliannau a phrofiadau – a pharhau i dyfu a newid.

Gwyliwch y ffilm isod i glywed eu straeon yn eu geiriau eu hunain.

Tags:
Share:

Edrychwch ar fwy o greadigrwydd Caerdydd

Caerdydd

Gwreiddio, Codi, Estyn (Dod yn Fuan)

Gan weithio gyda Yaina o’r elusen arddio Perennial, bu pobl hŷn, menywod a phobl ifanc yn cydweithio i gynllunio’r ardd

Caerdydd

Gwisgo ein Hunaniaeth

Archwiliodd pobl ifanc o Butetown, Grangetown a Splott sut y gall dillad fynegi pwy ydym ni a lle rydym yn dod ohono

Caerdydd

Blasu’r Byd

Yn fwy na chasgliad o ryseitiau, mae Blasu’r Byd yn dathlu’r cyfeillgarwch, yr hyder a’r ymdeimlad o berthyn a dyfodd yn y gegin.

Caerdydd

Straeon Heb eu Hadrodd (Dod yn Fuan)

Teithiodd pobl ifanc o Butetown i Lundain i wylio Untold Stories Part 2, rhaglen ddogfen sy’n archwilio profiadau’r gymuned Somali yn Tower Hamlets

Amanah Girls Group PortraitsCaerdydd

Portreadau o grŵp merched Amanah

Ymwelodd y ffotograffydd Rhys Webber â Grŵp Merched Amanah gyda stiwdio luniau gludadwy a thynnu’r portreadau hyn.