Ein Cymru Greadigol (Murlun)

Ym Meddau, archwiliodd pobl sut mae byd natur yn dychwelyd i dirwedd a luniwyd unwaith gan ddiwydiant.

Gan weithio gyda Buglife Cymru, darganfu’r grŵp sut mae hen Lofa’r Cwm a’r Gwaith Colsio wedi dod yn gartref i amrywiaeth rhyfeddol o fywyd gwyllt – gan gynnwys glöynnod, gwenyn, chwilod a ‘Bwystfil Beddau’, neidr filtroed wen fach iawn sydd ond i’w chanfod mewn ychydig iawn o lefydd yn y byd.

Wedi’u hysbrydoli gan yr hyn wnaethant ei ddarganfod, crëodd y grŵp y murlun hwn. Mae amlinell yr hen waith colsio wedi’i amgylchynu gyda blodau, glöynnod byw a phryfetach, gan ddangos byd natur yn ffynnu ochr yn ochr gyda gorffennol diwydiannol Beddau.

Mae’r murlun yn dathlu tirwedd a bywyd gwyllt, hanes a chreadigrwydd sy’n newid ac sy’n ei wneud yn arbennig.

Cliciwch y delweddau i archwilio’r murlun.

Edrychwch ar fwy o greadigrwydd Oedolion gydag Anableddau

Happy to be Welsh teeshirt | Crys-t 'Hapus i fod yn GymroOedolion gydag Anableddau

Balchder ein Cymru Ni

3 chrys-t wedi’u hargraffu â llaw, sy’n adlewyrchu balchder y crewyr yn eu hunaniaeth

Our Wales Exhibition PanelsOedolion gydag Anableddau

Paneli Arddangos Ein Cymru

Paneli o’r arddangosfa dros dro yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, Bae Caerdydd

Collage of photographic images | Casgliad o Ddelweddau FfotograffigOedolion gydag Anableddau

Ein Strydoedd, Ein Straeon

Cerdyn bingo o ysgogiadau ffotograffiaeth a’r ymatebion cydweithredol

Canals of Cardiff collageOedolion gydag Anableddau

Camlesi Caerdydd

Colais yn archwilio camlas Morgannwg sydd wedi mynd ar goll, wedi’i chladdu o dan ganol dinas Caerdydd