Dyfroedd Dyfnion

Mae tirwedd Port Talbot wedi cael ei lunio ers blynyddoedd lawer gan ddiwydiant a’r môr.

Wedi’i ysbrydoli gan draeth Aberafan, fe wnaeth y Knatty Knitters greu’r creaduriaid môr lliwgar yma drwy wau a chrosio. Casglodd gwirfoddolwyr o Bantri Bwyd Sandfields gregyn o’r traeth a phaentio’r nenlinell gwaith dur cyfarwydd yn gefnlen.

Gyda’i gilydd, mae’r darnau’n dod â threftadaeth ddiwydiannol a naturiol Port Talbot yn rhan o’r un dirwedd. O dan y nenlen gyfarwydd, mae bywyd môr yn ffynnu mewn lliwiau llachar, gan ddathlu bywyd gwyllt yr arfordir a chreadigrwydd y gymuned.

Pan gafodd y gwaith celf ei arddangos gyntaf, ychwanegodd pobl leol eu hatgofion eu hunain o draeth Aberafan – gan ddangos sut mae’r traeth yn parhau i gysylltu pobl, lle a’r cof.

Cliciwch ar y delweddau i archwilio’r gwaith celf

Edrychwch ar fwy o greadigrwydd Port Talbot

Return to my trees acrylic pen on watercolour paperPort Talbot

Dod yn Ôl At Fy Nghoed

Mae’r dyfyniad ‘Dod yn ôl at fy nghoed’ yn disgrifio cymryd eiliad i glirio’ch meddwl a dod o hyd i chi eich hun o newydd

Hostory boys portrait | Portread bechgyn hanesPort Talbot

Bechgyn y Llyfrgell

Portreadau ac atgofion gan Bechgyn Llyfrgell Sandfields

3 willow bees celebrating the community garden's creation and the rare carder bees found in Port TalbotPort Talbot

Gwau’r Gwenyn

3 gwenynen helyg yn dathlu creu’r ardd gymunedol a’r gwenyn cardio prin a geir ym Mhort Talbot

Owl collage | Collage tylluan 5Port Talbot

Tylluanod a Blodau

Cllajau cyfryngau cymysg yn ailddychmygu stori Blodeuwedd

Collage of photos of the gardenPort Talbot

Mwy Na Dim Ond Lle Gwyrdd

Yn 2023, roedd y rhan fwyaf o’r tir o amgylch Llyfrgell Sandfields yn laswellt. Roedd gan wirfoddolwyr lleol weledigaeth wahanol – creu gardd fyddai’n dod â phobl a byd natur at ei gilydd