Cyfrinachau’r Tywod
Mae gan y tywod o amgylch Port Talbot olion cudd pobl oedd yn byw yno filoedd o flynyddoedd yn ôl.
Wedi’u hysbrydoli gan wrthrychau cynhanesyddol a ddarganfuwyd yn lleol, archwiliodd pobl beth mae’r canfyddiadau hyn yn gallu ei ddweud wrthym ynghylch sut roedd cymunedau cynharach yn byw ac yn gwneud pethau.
Gan ddefnyddio clai, gwlân ac offer naturiol, fe wnaethant greu eu gwrthrychau eu hunain wedi’u hysbrydoli gan y gorffennol. Roedd eu gwneud â llaw yn cynnig cysylltiad gyda phobl wnaeth lunio, addurno a defnyddio deunydd tebyg genedlaethau yn ôl.
Mae’r creadigaethau newydd yma’n dod â bywydau hynafol a modern at ei gilydd, gan ddangos sut y gall gwrthrychau ein cysylltu gyda’r bobl oedd yn byw ar yr un dirwedd ymhell o’n blaen.
Cliciwch y delweddau i archwilio’r gwrthrychau.
Edrychwch ar fwy o greadigrwydd Port Talbot
Port TalbotDod yn Ôl At Fy Nghoed
Mae’r dyfyniad ‘Dod yn ôl at fy nghoed’ yn disgrifio cymryd eiliad i glirio’ch meddwl a dod o hyd i chi eich hun o newydd
Port TalbotMorfil Aberafan
Cerflun papur-mâché o morfil a phengwinedd Aberafan, nodwedd gelf gyhoeddus boblogaidd iawn ar lan y môr
Port TalbotDyfroedd Dyfnion
Diorama o greaduriaid môr wedi’u gwau, llinell ategol eiconig y gwaith dur, a chregyn o draeth Aberafan
Port TalbotAtgofion: Portreadau Perthyn (Portreadau)
Llyfr o bortreadau ac atgofion trigolion llety â chymorth Ysbryd Y Môr
Port TalbotFy Mhaned
Mae rhannu Paned yn un o feini prawf bywyd cymdeithasol Prydain, ond mae beth rydych chi’n ei yfed, sut rydych chi’n ei wneud, a phryd a lle rydych chi’n ei rannu yn ffenestr i draddodiadau personol a theuluol















