Bwyd Da o’r Ardd

Mae oedolion gydag anableddau dysgu wedi creu Gardd Enfys yn Hwlffordd, er mwyn tyfu perlysiau a ffrwythau gyda’i gilydd.

Gan weithio gyda’r arlunydd Sally Green, defnyddiodd y grŵp blanhigion o’r ardd a ffrwythau oedd wedi’u fforio i wneud papur argraffu eco lliwgar. Fe wnaethant droi hyn yn gardiau rysetiau a bwydlen ar gyfer pryd arbennig gan ddefnyddio’r cynnyrch roedden nhw wedi’u tyfu eu hunain.

O blannu a medi i goginio a bwyta, fe wnaeth pawb chwarae rhan. Dewisodd y grŵp wneud ffefrynnau o Gymru – cawl a phice ar y maen mwyar duon – cyn dod at ei gilydd i rannu’r pryd.

Daeth tyfu, coginio a chredu yn ffyrdd o rannu sgiliau, straeon a chyfeillgarwch, gan ddathlu’r cysylltiadau rhwng bwyd, byd natur a’r gymuned.

Cliciwch y delweddau i archwilio eu taith o’r ardd i’r bwrdd

Edrychwch ar fwy o greadigrwydd Sir Benfro

Detail of 'Horizon of hope' painted banner | Manylyn baner wedi'i phaentio 'Gorwel gobaith'Sir Benfro

Gorwel Gobaith

Sgrol wedi’i pheintio mewn ymateb i’r arddangosfa ‘Morwelion’

Textile art - Reach back in timeSir Benfro

Estyn yn Ôl mewn Amser

Celf tecstiliau gydweithredol ar ffurf Afon Cleddau, yn adlewyrchu cysylltiad y gwneuthurwyr â’r dyfrffyrdd

Close up of scroll therough the ages boardSir Benfro

Sgrolio Drwy’r Oesoedd

Timlin o hanes Aberdaugleddau, wedi’i gyfrannu ato gan gyfranogwyr ac ymwelwyr i’r arddangosfa

'Museum in a Bag' selection of pieces | Detholiad o ddarnau 'Amgueddfa mewn Bag' 5Sir Benfro

Amgueddfa mewn Bag

Pocedi / Bagiau wedi’u haddurno a’u llenwi’n unigol yn creu ‘Amgueddfa Ohonof I’ fechan