Blasu’r Byd
Mae bwyd yn fwy na bwyta. Gall ddod â phobl at ei gilydd, cadw traddodiadau’n fyw a darparu ffordd o rannu diwylliant, straeon a gofal.
Drwy Taste the World, mae merched ifanc o grŵp Merched Amanah wedi dod ynghyd yn Red Sea House i goginio, dysgu a rhannu rysetiau. Wrth i’r prosiect ddatblygu, rhoesant gynnig ar sgiliau newydd, coginio ar gyfer eu teuluoedd a’i gilydd, a meithrin hyder ac annibyniaeth.
Daeth y gegin yn lle ar gyfer creadigrwydd, cyfeillgarwch a rhannu traddodiadau. Mae’r merched ifanc wedi dal yr hyn wnaethon nhw ei greu yn y llyfr coginio yma, gan gyfuno eu rysetiau gyda’u ffotograffau eu hunain.
Mae Taste the World yn fwy na dathlu casgliad o rysetiau, mae’n dathlu cyfeillgarwch, hyder ac ymdeimlad o berthyn wnaeth dyfu yn y gegin. Mae pob rysáit yn dod â’i stori ei hun, ac mae pob pryd a rennir yn creu atgofion newydd.
Edrychwch ar fwy o greadigrwydd Caerdydd
CaerdyddStraeon Heb eu Hadrodd (Dod yn Fuan)
Teithiodd pobl ifanc o Butetown i Lundain i wylio Untold Stories Part 2, rhaglen ddogfen sy’n archwilio profiadau’r gymuned Somali yn Tower Hamlets
CaerdyddEin Lleisiau (Dod yn Fuan)
Gweithiodd pobl ifanc o Butetown gyda’i gilydd i greu’r ffilm fer hon, sy’n archwilio beth mae hunaniaeth yn ei olygu iddyn nhw.
CaerdyddPortreadau o grŵp merched Amanah
Ymwelodd y ffotograffydd Rhys Webber â Grŵp Merched Amanah gyda stiwdio luniau gludadwy a thynnu’r portreadau hyn.
CaerdyddGwreiddio, Codi, Estyn (Dod yn Fuan)
Gan weithio gyda Yaina o’r elusen arddio Perennial, bu pobl hŷn, menywod a phobl ifanc yn cydweithio i gynllunio’r ardd
CaerdyddGwisgo ein Hunaniaeth
Archwiliodd pobl ifanc o Butetown, Grangetown a Splott sut y gall dillad fynegi pwy ydym ni a lle rydym yn dod ohono

























