Atgofion: Portreadau Perthyn (Portreadau)

Mae Ysbryd y Môr yn gymuned o dai sy’n edrych dros Draeth Aberafan ym Mhort Talbot. Er mwyn nodi ei 20fed mlwyddiant, mae preswylwyr a staff wedi gweithio gyda’r ffotograffydd Rhys Webber a Peter Jones er mwyn dal rhai’ o’r bobl a’r straeon sy’n ei wneud yn gartref iddynt.

Aeth Rhys ati i dynnu lluniau bob person wrth siarad gyda hwy am eu bywydau, a galluogi i’w personoliaethau ddod drwyddo yn y portreadau. Ochr yn ochr â’r ffotograffau, rhannodd pobl atgofion o blentyndod, teulu, gwaith, cyfeillgarwch a’r llefydd a’r profiadau sydd wedi eu creu.

O atgofion amser rhyfel a phartïon stryd y Coroni i swyddi cyntaf, anifeiliaid anwes hoffus a tharo ar enwogion ar hap, mae’r straeon yn dal yr adegau anghyffredin a bywyd bob dydd.

Gyda’i gilydd, mae’r portreadau a’r atgofion yn llunio Atgofion: Portreadau Perthyn – dathliad o fywydau sydd wedi bod, straeon a rannwyd a’r cysylltiadau wnaeth greu ymdeimlad o gartref.

Fel y dywedodd Rosa May-Harris, rheolwr Ysbryd y Môr:

“Mae perthyn yn cael ei adeiladu un sgwrs ar y tro.”

Cliciwch y portreadau er mwyn cwrdd â’r bobl y tu ôl i’r straeon.

Take a look at more Port Talbot creativity

Detail of 'Deep Waters' artwork | Manylyn o waith celf 'Deep Waters'Port Talbot

Dyfroedd Dyfnion

Diorama o greaduriaid môr wedi’u gwau, llinell ategol eiconig y gwaith dur, a chregyn o draeth Aberafan

cup of teaPort Talbot

Fy Mhaned

Mae rhannu Paned yn un o feini prawf bywyd cymdeithasol Prydain, ond mae beth rydych chi’n ei yfed, sut rydych chi’n ei wneud, a phryd a lle rydych chi’n ei rannu yn ffenestr i draddodiadau personol a theuluol

A paper-maiche sculpture of the Aberavon whale and penguins, a much-loved public art feature on the seafrontPort Talbot

Morfil Aberafan

Cerflun papur-mâché o morfil a phengwinedd Aberafan, nodwedd gelf gyhoeddus boblogaidd iawn ar lan y môr

Hostory boys portrait | Portread bechgyn hanesPort Talbot

Bechgyn y Llyfrgell

Portreadau ac atgofion gan Bechgyn Llyfrgell Sandfields

Secrets of the Sand clay jewellery based on archaelogical finds near Port TalbotPort Talbot

Cyfrinachau’r Tywod

Mae tywod arfordir Port Talbot yn cuddio olion pobl a oedd yn byw yma filoedd o flynyddoedd yn ôl