Amgueddfa mewn Bag
Beth fyddech chi’n ei roi mewn amgueddfa am eich bywyd?
Aeth pobl led-led Sir Benfro ati i archwilio gwrthrychau amgueddfa cyn meddwl am eu hanes eu hunain, eu hunaniaeth a beth mae adref yn ei olygu iddynt hwy.
Yna, aeth pawb ati i greu ‘Amgueddfa mewn Bag’, gan lenwi ac addurno bag papur gyda ffotograffau, gwaith celf, atgofion a thrysorau personol. Daeth pob un yn amgueddfa fach am eu gwneuthurwr – wedi’i greu a’i guradu ganddynt hwy.
Roedd rhai pobl wedi byw yn Sir Benfro ar hyd eu hoes. Roedd eraill wedi symud i ffwrdd ac wedi dychwelyd neu wedi gwneud yr ardal yn gartref iddynt yn fwy diweddar. Gyda’i gilydd, mae dros 40 o fagiau’n dweud nifer o wahanol straeon am bobl, llefydd, teithiau a pherthyn.
Cliciwch y delweddau i archwilio’r casgliad.
Edrychwch ar fwy o greadigrwydd Sir Benfro
Sir BenfroBwyd Da o’r Ardd
Rhesipis am chinio wedi’i wneud o fwyd o’u gardd gymunedol eu hunain, ar babur wedi’i liwio gyda phlanhigion o’r ardd honno
Sir BenfroSgrolio Drwy’r Oesoedd
Timlin o hanes Aberdaugleddau, wedi’i gyfrannu ato gan gyfranogwyr ac ymwelwyr i’r arddangosfa
Sir BenfroEstyn yn Ôl mewn Amser
Celf tecstiliau gydweithredol ar ffurf Afon Cleddau, yn adlewyrchu cysylltiad y gwneuthurwyr â’r dyfrffyrdd






















