
Croeso i Arddangosfa Ddigidol REACH Cymru
Mae gan bob cymuned stori sy’n werth ei hadrodd.
Daeth REACH Cymru â chymunedau led-led Cymru ynghyd i archwilio hanes lleol, rhannu atgofion a darganfod y straeon sy’n rhan o lefydd bob dydd.
Nid dim ond mewn amgueddfeydd a llyfrau mae hanes i’w ganfod. Mae’n byw mewn pobl a llefydd – mewn strydoedd, adeiladau, afonydd, arfordiroedd a’r atgofion rydym ni’n eu rhannu. Drwy gelf, ffotograffiaeth, ffilm, cerddoriaeth, ysgrifennu a gwneud, fe wnaeth pobl archwilio’r dreftadaeth a’r llefydd oedd yn bwysig iddynt hwy. Wrth wneud hynny, fe ddysgon nhw sgiliau newydd, gwneud cysylltiadau a chreu gwaith sy’n dathlu eu cymunedau a’u profiadau.
Mae’r arddangosfa ddigidol yma’n dwyn ynghyd y creadigrwydd a’r straeon a gynhyrchwyd drwy REACH Cymru. Mae peth o’r gwaith wedi’i arddangos mewn arddangosfeydd lleol ac yn Sain Ffagan Amgueddfa Genedlaethol Cymru. Cafodd llawer mwy ei greu yn ystod y daith. Yma, gallwch archwilio’r cyfan.
Pum cymuned. Nifer o straeon.
Gweithiodd REACH Cymru gyda phobl mewn pum ardal ar draws Cymru, gyda phob un yn dod â’u profiadau, eu hanes a’u syniadau eu hunain.
Caerdydd, Rhondda Cynon Taf a Bro Morgannwg >
Aeth oedolion gydag anableddau dysgu ati i archwilio hunaniaeth, balchder a pherthyn drwy ffotograffiaeth, paentio, cerddoriaeth a chreu. Mae eu gwaith yn dathlu cael eu gweld, cael eu clywed a mynegi pwy ydyn nhw. Gweld y Gymuned
Sir Benfro >
Bu i bobl yn Aberdaugleddau, Hwlffordd a Doc Penfro archwilio cysylltiadau gyda thirwedd, iaith, bwyd a hanes lleol. Mae eu gwaith yn adrodd straeon am siwrneiau, cymuned a dod o hyd i ymdeimlad o gartref. Gweld y Gymuned
Dyffryn Nantlle >
Archwiliodd pobl hanes a thirweddau Dyffryn Nantlle, gan ddwyn ysbrydoliaeth oddi wrth deuluoedd, ffermio, chwareli llechi, crefftau traddodiadol a’r byd naturiol. Gweld y Gymuned
Sandfields, Port Talbot >
Archwiliodd pobl atgofion am y traeth, diwydiant a chael eu magu yn Sandfields, law yn llaw â straeon am fyd natur, creadigrwydd a chymuned yn addasu i newid. Gweld y Gymuned
Tre-biwt, Caerdydd >
Archwiliodd pobl hunaniaeth, bwyd, ymfudo ac atgofion o gartref. Ar draws y cenedlaethau, fe rannon nhw straeon a dathlu’r gwahanol draddodiadau a phrofiadau sydd wedi llunio eu cymuned. Gweld y Gymuned
Gyda’i gilydd, mae’r gwaith creadigol o’r cymunedau hyn yn dangos nad oes un profiad unigol o Gymru. Mae pob cymuned yn wahanol, ac mae pob llais yn ychwanegu rhywbeth i stori Cymru.
Archwiliwch yr arddangosfa a darganfod pobl, llefydd a chreadigrwydd REACH Cymru.
Rhannu ein straeon
Mae gwaith sydd wedi’i greu drwy REACH Cymru hefyd wedi’i rannu drwy arddangosfeydd cymunedol ar hyd a lled Cymru, yn Wales Told by Us yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, a thrwy ddysgu ar-lein am ddim ar OpenLearn.
Diolch i bawb sydd wedi rhannu eu straeon, eu hatgofion, eu syniadau a’u creadigrwydd, ac i’r sefydliadau y mae eu cefnogaeth wedi gwneud REACH Cymru’n bosib.
Archwiliwch yn ôl Cymuned
Yma gallwch archwilio’r gweithiau celf gan bob cymuned benodol
Oedolion gydag AnableddauOedolion gydag anableddau dysgu ar hyd a lled Caerdydd, Bro Morgannwg a Rhondda Cynon Taf
Mae gan bobl ag Anawsterau Dysgu sy’n byw yn Rhondda Cynon Taf (RCT), Caerdydd a Bro Morgannwg ystod eang o ddiddordebau yn ogystal â hanes cydweithredol cryf o gefnogaeth gymunedol ac eiriolaeth.
CaerdyddTre-biwt, Caerdydd
Mae Tre-biwt (sydd hefyd yn cael ei adnabod fel ‘Tiger Bay’), yn ardal fywiog yng Nghaerdydd a ffynnodd i fod yn un o gymunedau amlddiwylliannol cyntaf y DU, gyda phobl o dros 50 o wledydd yn galw’r lle’n gartref erbyn dechrau’r 20fed ganrif.
GwyneddDyffryn Nantle, Gwynedd
Mae Dyffryn Nantlle, sydd wedi’i leoli yng nghalon Gwynedd, yn enwog am ei dirweddau syfrdanol a’i ddaeareg gyfoethog. Mae gan gymuned Gymraeg fywiog y dyffryn hanes hir gyda’r diwydiant llechi.
Sir BenfroAberdaugleddau, Hwlffordd a Doc Penfro, Sir Benfro
Mae gan Aberdaugleddau, Hwlffordd a Doc Penfro hanes cyfoethog sy’n gysylltiedig yn agos â masnach a bywoliaethau a gafwyd o’r dyfrffyrdd a’r môr.
Port TalbotSandfields, Port Talbot
Mae gan Sandfields ym Mhort Talbot – ardal a ddatblygwyd yn wreiddiol i ddarparu cartrefi i weithwyr dur – hanes cyfoethog sy’n gysylltiedig yn agos â diwydiant trwm.
Archwiliwch yr Arddangosfa
Mae yna nifer o ffyrdd y gallwch archwilio’r arddangosfa hon. Gallwch neidio’n syth i eitemau sy’n cael eu harddangos o gymuned benodol, dewis gweld gwaith gan ddefnyddio Tagiau (megis thema neu ddeunydd y gwaith celf), neu chwilio gan ddefnyddio geiriau allweddol.
ARDDANGOSIADAU NODWEDDIGOL
Partneriaid REACH Cymru
Y Brifysgol Agored yng Nghymru, Amgueddfa Cymru, Adra, Grŵp Ateb, Grŵp Codi, Cymdeithas Tai First Choice, Innovate Trust, Cymdeithas Dai Taf, Yr Orsaf, Casgliad y Werin Cymru, Ffederasiwn Amgueddfeydd Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru
Gwnaed REACH Cymru’n bosib gyda Chronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol. Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, rydym wedi gallu archwilio straeon a hanes cymunedau led-led Cymru drwy’r celfyddydau creadigol












