Amdanom ni
Mae REACH yn defnyddio gweithdai treftadaeth a chreadigrwydd i ddod â phobl ynghyd.
Mae REACH yn dod â hanes a threftadaeth a’r celfyddydau i stepen drws pobl, gan weithio gyda phum cymuned ledled Cymru.
Mae REACH yn ceisio deall pa fathau o dreftadaeth sy’n bwysig i bobl yn y cymunedau hynny, gan weithio gyda nhw i ddefnyddio’r hanes a’r dreftadaeth honno fel ysbrydoliaeth ar gyfer celfyddyd a chreadigrwydd.
Mae’n yn ymwneud â dysgu sgiliau newydd a gwneud ffrindiau newydd. Mewn gweithdai, rydym yn clywed straeon sydd heb gael eu clywed o’r blaen i ysbrydoli balchder, yn ogystal â defnyddio talentau pobl leol i herio’r stigma y mae eu cymunedau yn eu hwynebu.
Byddwn yn rhannu’r hyn y mae cyfranogwyr cymunedol yn ei wneud gyda’r byd ehangach trwy arddangosfeydd ar-lein ac arddangosfeydd ffisegol.

Mae REACH yn gweithio gyda phum cymuned ar draws Cymru:
Butetown, Caerdydd
Dyffryn Nantlle, Gwynedd
Traethmelyn, Port Talbot
Pobl ag anableddau dysgu, Rhondda Cynon Taf a Bro Morgannwg
Cymunedau gwledig, Sir Benfro
Darllenwch fwy am bob cymuned:
Butetown, Caerdydd
Mae Butetown, a elwir weithiau yn Tiger Bay, yn ardal fywiog yng Nghaerdydd a flodeuodd i fod yn un o gymunedau amlddiwylliannol cyntaf y DU, gyda phobl o dros 50 o wledydd yn ei galw’n gartref erbyn dechrau’r 20fed ganrif. Heddiw, mae’n parhau i fod yn ardal ddiwylliannol fywiog, sy’n cael ei dathlu am ei hanes cyfoethog a’i chymuned amrywiol.
Dyffryn Nantlle, Gwynedd
Mae ardal Dyffryn Nantlle, sy’n swatio yng nghanol Gwynedd, yn enwog am ei thirweddau trawiadol a’i daeareg gyfoethog. Mae gan gymuned Gymraeg fywiog y cwm hanes hir gyda’r diwydiant llechi. Mae’r gymuned yno yn parhau i ddathlu ei threftadaeth ddiwylliannol a chadw ysbryd yr ardal brydferth hon yn fyw.
Traethmelyn, Port Talbot
Mae gan Draethmelyn ym Mhort Talbot, ardal a ddatblygwyd yn wreiddiol i gartrefu gweithwyr dur, hanes cyfoethog sydd â chysylltiad agos â diwydiant trwm. Mae’r gymuned wydn hon yn addasu i ddad-ddiwydiannu, gan gynnal ymdeimlad cryf o falchder lleol ac yn parhau i ffynnu trwy nifer o rwydweithiau a mentrau cymunedol.
Pobl ag anableddau dysgu, Rhondda Cynon Taf a Bro Morgannwg
Mae gan bobl ag anableddau dysgu sy’n byw yn Rhondda Cynon Taf (RhCT) a Bro Morgannwg ystod amrywiol o ddiddordebau a hanes cyfunol cryf o gefnogaeth ac eiriolaeth gymunedol. Trwy gydweithio wyneb yn wyneb ac ar-lein, mae’r cymunedau hyn yn dathlu eu cyfraniadau unigryw ac yn meithrin ymdeimlad pwerus o berthyn.
Cymunedau gwledig, Sir Benfro
Mae gan gymunedau gwledig o amgylch Aberdaugleddau, ac ar draws Sir Benfro yn ehangach, hanes cyfoethog sydd â chysylltiad dwfn ag amaethyddiaeth a bywoliaeth o’r môr. Mae’r ardaloedd hyn yn parhau i ffynnu, gyda thrigolion yn mynd ati i ddathlu eu treftadaeth a’u hysbryd cymunedol.
Mae REACH Cymru yn bartneriaeth rhwng tri ar ddeg o sefydliadau ac yn cael ei harwain gan Y Brifysgol Agored ac Amgueddfa Cymru. Mae’n cael ei ariannu gyda grant gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol. Dechreuodd y cyfnod presennol yn hydref 2024 ac mae disgwyl iddo barhau tan hydref 2026.
Mae REACH hefyd yn brosiect ‘Open Societal Changes’ y Brifysgol Agored sy’n golygu ei fod yn anelu at fynd i’r afael â rhai o’r heriau mawr sy’n ymwneud â lles ac anfantais sy’n wynebu sawl rhan o’n cymdeithas. Ewch i wefan Open Societal Challenges i ddysgu mwy.
Llinell amser
Hydref 2024
Mae cyfnod cyflawni REACH Cymru yn cychwyn. Disgwylir iddo bara am ddwy flynedd a chynnal tua 150 o ddigwyddiadau a gweithgareddau ar draws pum cymuned.
Hydref 2023
Mae cyfnod datblygu REACH Cymru yn dod i ben. Cynhaliwyd 25 o ddigwyddiadau a gweithgareddau gan ddenu dros 180 o gyfranogwyr.
Gwanwyn 2023
Mae cyfnod datblygu REACH Cymru yn cychwyn, gan weithio gyda phobl o bum cymuned sy’n cyfranogi i ddylunio prif ran y prosiect. Mae’n cael ei ariannu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol.


Gwanwyn 2022
Mae’r gwaith y mae cyfranogwyr REACH Blaenau Gwent wedi’i wneud yn cael ei arddangos yn Sain Ffagan, Amgueddfa Werin Cymru. Mae’r arddangosfa yn denu dros 18,000 o ymwelwyr mewn cyfnod o dri mis.
Hydref 2021
Mae arddangosfa ar-lein REACH Blaenau Gwent yn cael ei lansio, gan arddangos y gwaith a gynhyrchwyd gan gyfranogwyr.
Gwanwyn 2021
REACH Blaenau Gwent yn dod i ben. Mae wedi cynnal 30 o ddigwyddiadau ar gyfer 50 o gyfranogwyr sydd rhyngddynt wedi gwneud 65 darn o gelfyddyd, cerddoriaeth ac ysgrifennu.
Gwanwyn 2020
Mae prosiect peilot o’r enw REACH Blaenau Gwent yn cychwyn. Mae’n cael ei ariannu gan UKRI.
Arianwyr a phartneriaid
Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol
Mae’n darparu’r rhan fwyaf o’r arian i redeg REACH. Rydym yn hynod ddiolchgar i haelioni chwaraewyr y Loteri Genedlaethol am alluogi REACH i ddigwydd.
Y Brifysgol Agored yng Nghymru
Yn arwain y prosiect REACH. Maent yn gyfrifol am gydlynu pob agwedd ar REACH a dod â’r holl sefydliadau partner ynghyd. Mae’r Brifysgol Agored yn cynnig profiad helaeth ym maes addysg oedolion ac ymgysylltu â’r gymuned hefyd.
Amgueddfa Cymru
Partner allweddol ar REACH. Gyda saith safle amgueddfa a chanolfan gasglu ledled Cymru, maent yn darparu arbenigedd i REACH mewn sawl maes, yn enwedig hanes, archaeoleg a hanes naturiol Cymru.
Adra
yw cymdeithas dai fwyaf gogledd Cymru. Maen nhw’n cefnogi gwaith REACH gyda phobl yn Nyffryn Nantlle, Gwynedd.
Grŵp Tai ateb
Nod ateb yw creu amgylcheddau diogel, sefydlog a saff lle gall pobl fyw eu bywydau. Maen nhw’n arwain ar waith REACH gyda phobl yng nghefn gwlad Sir Benfro.
Cyngor Celfyddydau Cymru
yw’r corff swyddogol sy’n datblygu’r celfyddydau yng Nghymru. Maen nhw’n cynghori REACH ar ddefnyddio dulliau celfyddydol mewn cymunedau.
Ffederasiwn Amgueddfeydd Cymru
yw’r corff strategol ar gyfer amgueddfeydd ac orielau yng Nghymru. Maen nhw’n cynghori REACH ar weithio gyda sefydliadau treftadaeth lleol.
First Choice
Mae cymdeithas dai First Choice yn credu y dylai pawb fyw yn eu ‘cartref am byth’ ac na ddylai bod ag anabledd fod yn rhwystr i hyn. Maen nhw’n cefnogi gwaith REACH gyda phobl ag anableddau dysgu yn RhCT a Bro Morgannwg.
Innovate Trust
Mae Innovate Trust yn cefnogi pobl ag anableddau i fyw bywydau llawn. Maen nhw’n arwain gwaith REACH gyda phobl ag anableddau dysgu yn RhCT a Bro Morgannwg.
Linc Cymru
Mae cymdeithas dai Linc Cymru wedi ymrwymo i Gymru hapusach ac iachach. Maen nhw’n arwain gwaith REACH gyda phobl yn Nhraethmelyn, Port Talbot.
Yr Orsaf
Hyb cymunedol ym Mhenygroes yw Yr Orsaf. Maen nhw’n arwain gwaith REACH gyda phobl yn Nyffryn Nantlle, Gwynedd.
Casgliad y Werin Cymru
Mae Casgliad y Werin Cymru yn wefan rhad ac am ddim sy’n ymroddedig i ddod â threftadaeth Cymru ynghyd. Maen nhw’n cynghori REACH ar wneud hanes llafar a digideiddio gyda chymunedau.
Iechyd Cyhoeddus Cymru
yw’r asiantaeth iechyd cyhoeddus genedlaethol yng Nghymru. Maent yn cynghori REACH ar sut i ddefnyddio treftadaeth a’r celfyddydau i wella lles pobl.
Cymdeithas Tai Taf
Mae Cymdeithas Tai Taf wedi ymrwymo i alluogi cymunedau i ffynnu. Maen nhw’n arwain gwaith REACH gyda phobl yn Butetown, Caerdydd.
Cwrdd â’r Tîm

Dr Richard Marsden
Uwch Ddarlithydd mewn Hanes, Y Brifysgol Agored
Richard yw arweinydd academaidd REACH. Mae ganddo ddiddordeb mawr yn y ffordd mae pobl yn meddwl am eu gorffennol, a sut mae hynny’n siapio eu hunaniaethau yn y presennol.

Dan Jewson
Rheolwr Prosiect REACH, Y Brifysgol Agored
Dan yw Rheolwr Prosiect REACH Cymru. Yn angerddol am hanes cymdeithasol ac ymgysylltiad cymunedol, mae Dan yn credu y gall archwilio hanes, treftadaeth a diwylliant rymuso cymunedau, trawsnewid bywydau, a herio naratifau elitaidd i greu gorffennol mwy cynhwysol.

Hywel Squires
Uwch Gydlynydd Ymgysylltu, Amgueddfa Cymru
Mae Hywel yn helpu i gynllunio a chynnal gweithgareddau ymgysylltu cymunedol ar gyfer prosiect REACH. Mae’n hynod frwd a gwybodus ynghylch amgueddfeydd, yn angerddol am dreftadaeth a museoleg, ac wrth ei fodd yn archwilio sut y gall amgueddfeydd fod yn fannau ar gyfer newid cymdeithasol.

Ruth Poultney
Swyddog Prosiect, Y Brifysgol Agored yng Nghymru
Mae Ruth yn trefnu ac yn hwyluso gweithdai a digwyddiadau ar gyfer prosiect REACH, ac mae’n cael ei swyno gan hanesion cudd, straeon cyfrin a phopeth creadigol. Fe’i gwelwch hi’n creu celf a chrefft, yn rhannu ei chariad at ddarnau o hanes anarferol ac anghofiedig neu’n mynd ati’n ymarferol i fynd i’r afael â gweithgareddau natur a lles.









